Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn dymuno nodi ein gofid a’n hanfodlonrwydd ynghylch cyhoeddi rhybudd diswyddiad Adran 188 a wnaed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a’r cynigion i gwtogi staff a ddaeth yn ei sgîl.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
• wrthwynebu a rhoi terfyn ar y toriadau didostur hyn;
• sicrhau bod diogelwch cleifion ac ansawdd y gwasanaeth yn gwella, ac nid yn cael ei gwtogi ymhellach; ac i
• gefnogi ac ymgyrchu dros arian priodol ar gyfer y GIG
Prif ddeisebydd: Howard Barr
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Tachwedd 2013
Nifer y llofnodion: 654